CYP(4)-03-12 (Papur 2)
Papur tystiolaeth ar gyfer y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Dyddiad: 26 Ionawr 2012
Teitl: Dechrau’n Deg
Diben
Darparu trosolwg o’r rhaglen Dechrau’n Deg i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. Mae’r papur yn cynnwys adrannau ar:
· Ddarpariaeth;
· Arian;
· Trefniadau targedu;
· Cynllunio ar gyfer ehangu; a
· Gwerthuso.
1. Cyflwyniad
Rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau’n Deg, ac mae’n darparu llwybr tuag at wella cyfleoedd bywyd plant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae’n darparu cyfres "gyffredinol" o hawliau y gall yr holl blant a’u teuluoedd mewn ardaloedd o amddifadedd fanteisio arnynt heb brawf modd neu stigma cysylltiedig. Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos y gall ymyrraeth ddwys yn y blynyddoedd cynnar wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau.
2. Darpariaeth
Ehangu Dechrau’n Deg
Ehangu Dechrau’n Deg yw un o brif ymrwymiadau maniffesto ‘Pump am Ddyfodol Tecach’ sydd i’w gyflawni dros y pedair blynedd nesaf. Mae’r ymrwymiad yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru’n:
Dyblu nifer y plant sy’n elwa ar Dechrau’n Deg i 36,000.
Caiff y gwaith o ehangu’r rhaglen ei gyflawni dros sawl blwyddyn er mwyn i ni sefydlu’r seilwaith angenrheidiol, gan gynnwys recriwtio a hyfforddi ymwelwyr iechyd, gweithwyr gofal plant a staff ychwanegol i ddarparu rhaglenni rhianta. Bydd hyn hefyd yn ein galluogi i ddatblygu seilwaith cyfalaf, yn enwedig lleoliadau gofal plant, i gyflwyno’r rhaglen yn ei hardaloedd targed newydd.
Sicrhau cysondeb yn y ddarpariaeth wladol cyn ehangu
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a’u partneriaid i sicrhau bod y rhaglen yn cael ei darparu’n gyson ledled Cymru. Mae nifer o awdurdodau eisoes yn llwyddo i sicrhau cysondeb wrth ddarparu’r rhaglen yn unol â’r canllawiau. Fodd bynnag, fel y nodir yn Adroddiad Interim y Gwerthusiad ym mis Hydref 2010, mae yna wahaniaethau’n bodoli o hyd yn y ffordd mae rhai awdurdodau’n darparu’r hawliau.
Mae gwaith yn parhau i gael ei wneud i fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu rhai awdurdodau lleol o ran darparu’r rhaglen yn unol â’r canllawiau. Mae swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol unigol ac yn darparu cymorth a chyngor ar ddatrys y materion hynny sy’n effeithio ar allu awdurdodau lleol i sicrhau cysondeb darpariaeth cyn ehangu. Bydd hyn yn hollbwysig i sicrhau dull cyson o ddarparu hawliau craidd ledled Cymru. Dylid nodi bod y gwahaniaethau a nodir uchod yn cyfeirio at yr achosion hynny lle nad yw’r canllawiau’n cael eu dilyn – er enghraifft, lle mae’r ddarpariaeth gofal plant yn gyfyngedig – yn hytrach na’r achosion hynny lle mae’r canllawiau’n caniatáu disgresiwn lleol i deilwra gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion penodol mewn cymunedau.
O ganlyniad i ganfyddiadau’r Gwerthusiad Cenedlaethol, rydym yn ymwybodol bod rhai awdurdodau’n ei chael hi’n anodd ymgysylltu â rhai o’r grwpiau mwy anodd eu cyrraedd, gan gynnwys grwpiau sy’n ddifreintiedig yn economaidd-gymdeithasol. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau y gallant ddiwallu anghenion amrywiol yr holl unigolion a chymunedau a gefnogir gan Dechrau’n Deg. Bydd darpariaeth cyfrwng Cymraeg a darparu cymorth sy’n diwallu anghenion cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn parhau i fod yn rhan annatod o’r rhaglen.
3. Arian
Cyn 2012/13, mae arian Dechrau’n Deg yn cael ei ddyrannu i bob awdurdod lleol gan ddefnyddio Fformiwla Asesu Gwariant Safonol Gwasanaethau Cymdeithasol Personol Plant, sy’n seiliedig ar bob math o ddangosyddion o’r grŵp oedran 0-18. Er bod y dull hwn o ddosbarthu’r arian wedi galluogi’r rhaglen i gyrraedd nifer o gymunedau difreintiedig ym mhob awdurdod lleol, mae’r data a ddefnyddir i lywio’r dull hwn bellach wedi dyddio. Mae hefyd yn seiliedig ar blant 0-18 oed, nad yw’n cyd-fynd yn dda ag ystod oedran y plant sy’n gymwys i ddefnyddio gwasanaethau Dechrau’n Deg. Er y bydd y ddarpariaeth gyfredol yn parhau i gael ei hariannu fel hyn, er mwyn lleihau anghysondeb yn yr ardaloedd targed cyfredol, diwygiwyd y ffordd o ddyrannu arian i awdurdodau lleol i ehangu’r rhaglen. Bydd arian ar gyfer ehangu’r rhaglen yn deillio o’r amcangyfrif o blant 0-3 oed sy’n byw mewn cartrefi sy’n derbyn budd-daliadau incwm mewn ardaloedd awdurdod lleol. Mae nifer o fanteision i’r dull diwygiedig hwn:
Mae cyllideb Dechrau’n Deg ar gyfer y tair blwyddyn ariannol nesaf fel a ganlyn:
|
Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL) Refeniw Dechrau’n Deg |
2011-12 |
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
|
|
£40.494 miliwn |
£46.494 miliwn |
£62.994 miliwn |
£72.994 miliwn |
Mae dyraniadau dangosol Awdurdodau Lleol yn atodiad A.
Ni ellir ehangu Dechrau’n Deg trwy ddefnyddio refeniw yn unig. Mae yna ryngddibyniaeth gref yn y rhaglen rhwng buddsoddiad cyfalaf a gwariant refeniw; nid yw’n bosibl darparu’r gwasanaethau, a ariennir gan y grant refeniw, oni bai bod y seilwaith cyfalaf angenrheidiol ar waith. Bydd cyfanswm o £6 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael dros y ddwy flynedd ariannol nesaf sef 2012-13 a 2013-14. Mae swyddogion yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau i ehangu seilwaith cyfalaf Dechrau’n Deg. Bydd y pwyslais ar ddefnyddio adnoddau mewn ffordd greadigol, sicrhau effeithlonrwydd a defnyddio seilwaith cyfredol y sector preifat, y trydydd sector ac awdurdodau lleol.
4. Trefniadau targedu
Ym mis Rhagfyr 2011, cafodd awdurdodau lleol wybod eu dyraniadau ar gyfer 2013-15, eu dyraniadau dangosol ar gyfer 2013-15, niferoedd cap targed[1] a rhestr o’u hardaloedd cynnyrch ehangach haen is a oedd yn cynnwys amcangyfrifon manwl o nifer y plant 0-3 oed a nifer y plant 0-3 oed sy’n byw mewn cartrefi sy’n derbyn budd-daliadau incwm yr awdurdod. Mae’r data hwn yn darparu sail eang i awdurdodau lleol ddechrau nodi eu hardaloedd targed newydd ar gyfer ehangu’r rhaglen. Yn yrLSOAs hyn, mae’n anochel y bydd yna gyfran o blant 0-3 oed nad ydynt yn byw mewn cartrefi sy’n derbyn budd-daliadau incwm ac eraill nad ydynt angen cymorth Dechrau’n Deg. Bydd y rhaglen yn parhau i fod yn seiliedig ar ardaloedd daearyddol a bydd hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ddefnyddio gwybodaeth leol i ddiffinio eu hardaloedd targed, ar grynodiadau o blant sy’n byw mewn cartrefi sy’n derbyn budd-daliadau incwm, i sicrhau bod y rhaglen yn cyrraedd y rheini sydd fwyaf angen cymorth.
Allgymorth
Er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cyrraedd y rheini sydd fwyaf angen cymorth, fel rhan o’r gwaith o ehangu Dechrau’n Deg, disgwylir i awdurdodau lleol ddefnyddio gwaith allgymorth i nodi’r teuluoedd hynny nad ydynt yn byw o fewn ardaloedd targed, ond a fyddai’n elwa ar wasanaethau Dechrau’n Deg. Fel hyn, bydd y rhaglen estynedig yn fwy hyblyg ac yn gallu ymateb yn well i anghenion teuluoedd heb gartref parhaol a’r rheini mewn ardaloedd gwledig. Ar gyfer y flwyddyn gyntaf – fel treial lle defnyddir hyblygrwydd lleol – bydd y gwaith allgymorth hwn yn derbyn cymorth ariannol sy’n cyfateb i 2.5% o ddyraniad refeniw awdurdod lleol, gyda theuluoedd yn cael eu hatgyfeirio trwy fecanweithiau atgyfeirio priodol fel y Fframwaith Asesu Cyffredin (CAF) neu Fframwaith Asesu’r Teulu ar y Cyd (JAFF). Byddwn yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol dros y misoedd nesaf i ddatblygu’r rhan hon o’r rhaglen ymhellach.
5. Cynllunio ar gyfer ehangu
Cafodd awdurdodau lleol wybod eu dyraniadau dangosol ar gyfer 2012-15 ym mis Rhagfyr 2011. Cawsant hefyd y data angenrheidiol i ddechrau cynllunio i ehangu Dechrau’n Deg o fewn eu ffiniau. Caiff y cynlluniau amlinellol eu cyflwyno ar 31 Ionawr 2012 a byddant yn rhoi rhyw syniad o’r hyn y gellir ei gyflawni yn ystod dwy flynedd gyntaf yr ehangu. Dyma’r dyddiadau allweddol yn y broses gynllunio ar hyn o bryd:
31 Ionawr 2012 Awdurdodau lleol i gyflwyno cynllun refeniw manwl ar gyfer blwyddyn ariannol 2012/13 a chynllun cyfalaf amlinellol ar gyfer 2012-15
Mawrth 2012 Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer rhaglen Dechrau’n Deg fel sail i gynlluniau ar gyfer 2013 ymlaen
31 Mai 2012 Awdurdodau lleol i gyflwyno cynllun grant refeniw strategol tair blynedd ar gyfer 2012-15 yn seiliedig ar y canllawiau diwygiedig. Bydd y cynllunio ar gyfer 2012/13 yn broses ailadroddus yn bennaf, gyda swyddogion Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid llywodraeth leol i gytuno ar fanylion cynnar ar gyfer ehangu.
Gwaith datblygu’r gweithlu
Er mwyn cyflawni’r ymrwymiad i ddyblu nifer y plant sy’n elwa ar Dechrau’n Deg, rhaid sicrhau bod yna weithlu priodol ar gael i ehangu’r gwasanaethau, ac yn enwedig bod digon o ymwelwyr iechyd (i gynnal y llwyth achos 1:110) a gweithwyr gofal plant ar gael.
Ymwelwyr Iechyd
Er mwyn darparu gwasanaethau ymwelwyr iechyd ar yr un lefel ag a ddefnyddir ar hyn o bryd (h.y. un ymwelydd iechyd i bob 110 o blant), mae asesiad o ofynion yn nodi y byddai angen 160 o swyddi newydd i gyflawni’r ymrwymiad yn y maniffesto. Ar hyn o bryd, mae tua 570 o ymwelwyr iechyd yn y gwasanaeth cyffredinol, felly mae angen ymgyrch recriwtio a hyfforddi sylweddol i sicrhau nifer yr ymwelwyr iechyd sydd eu hangen ar raglen estynedig Dechrau’n Deg.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr o Adran y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol y GIG, yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH) a darparwyr Addysg uwch i ddatblygu cynllun hyfforddi strategol ar gyfer y gweithlu ymwelwyr iechyd a fydd yn cefnogi gwaith ehangu rhaglen Dechrau’n Deg. Mae ymgyrch recriwtio sylweddol eisoes ar waith i gyflawni nifer yr ymwelwyr iechyd y bydd eu hangen ar raglen estynedig Dechrau’n Deg.
Y gweithlu gofal plant
I sicrhau bod Dechrau’n Deg yn cael ei ehangu’n llwyddiannus, mae angen i awdurdodau lleol sicrhau bod y nifer cywir o arweinwyr a gweithwyr gofal plant ar gael ar yr adeg iawn, eu bod o’r safon iawn a bod ganddynt y cymwysterau priodol. Gofynnwyd i awdurdodau lleol gynllunio i ddatblygu eu gweithlu gofal plant yn barod ar gyfer ehangu’r rhaglen. Bydd y dadansoddiad o ddiweddaru’r asesiadau o ddigonolrwydd gofal plant a gynhelir gan awdurdodau lleol yn helpu i lywio’r broses hon. Bydd hefyd angen ystyried ansawdd y gofal plant, priodoldeb y cymwysterau a faint o hyfforddiant addas sydd ar gael ar lefel genedlaethol.
6. Gwerthuso Dechrau’n Deg
Mae gwerthuso’n allweddol i sicrhau bod ein rhaglenni’n cael effaith ac, yn ddiweddar, cyhoeddais yr adroddiad ar arolwg gwerthuso Ton 1: ‘Canfyddiadau arolwg sylfaenol o deuluoedd – mapio anghenion a mesur dylanwad cynnar ymhlith teuluoedd â babanod 7-20 mis oed’ ym mis Rhagfyr 2011.
Mae’r adroddiad wedi darparu gwybodaeth bwysig am anghenion teuluoedd mewn ardaloedd Dechrau’n Deg a’r heriau maent yn eu hwynebu, yn ogystal â dylanwad cynnar y rhaglen. Dangosodd yr arolwg y canlynol:
o Mae teuluoedd yn derbyn mwy o gymorth yn sgil rhaglen Dechrau’n Deg;
o Mae teuluoedd mewn ardaloedd dechrau’n Deg yn derbyn lefelau uwch o gymorth ar gyfer gwasanaethau ymwelwyr iechyd, rhaglenni rhianta ac Iaith a Chwarae (LAP) na’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd cymharol;
o Mae rhieni’n teimlo’n fwy cadarnhaol ynglŷn â’r gwasanaethau a’r cymorth a ddarperir iddynt.
o Mae rhieni sydd wedi mynychu grwpiau Dechrau’n Deg penodol yn nodi bod eu hyder fel rhiant wedi gwella, eu bod yn teimlo eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau gwell ynglŷn â sut i ofalu am eu baban a bod ganddynt ddealltwriaeth well o ddatblygiad cyffredinol eu plentyn;
o Mae llawer yn nodi eu bod wedi gweld newidiadau cadarnhaol yn ymddygiad eu plentyn ers dilyn cyrsiau rhianta Dechrau’n Deg.
Mae’n ymddangos bod y ffocws ar wella datblygiad iaith wedi bod yn llwyddiannus ac mae llawer o rieni mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu yn y cartref gyda’u plant.
Roedd yr adroddiad yn awgrymu hefyd nad oedd Dechrau’n Deg wedi dangos gwahaniaeth cadarnhaol mewn perthynas â chyfraddau bwydo ar y fron ac imiwneiddio a diddyfnu o fewn yr amserlen a argymhellwyd. Fodd bynnag, mae’r amserlenni ar gyfer sicrhau newid mewn ymddygiad rhianta ar lefel teulu a chymuned yn hir yn aml, ac yn sicr yn hirach na’r cyfnod sy’n arwain at yr arolwg o waith maes. O ganlyniad, mae ystod a lefel y newid ymddygiad y gellir ei ddisgwyl gan Dechrau’n Deg adeg cynnal yr arolwg yn gymharol gyfyngedig. Byddaf yn ystyried cynnal gwaith monitro a gwerthuso i olrhain cynnydd ar y dangosyddion hyn a dangosyddion eraill yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad ar yr arolwg yn rhan o’r sail dystiolaeth ehangach ar gyfer Dechrau’n Deg ac yn rhan o werthusiad parhaus y rhaglen. Bwriedir cynnal arolwg Ton 2 yn ystod yr haf 2012, a byddwn yn ceisio ymweld â chymaint â phosibl o deuluoedd Ton 1 pan fydd y plant yn hŷn. Yr adeg hon, bydd y teuluoedd yn cael cyfle i fanteisio ar ystod lawnach o wasanaethau Dechrau’n Deg, ac felly bydd yr arolwg o’r ail don yn darparu asesiad llawnach o effaith.
7. Goblygiadau ar gyfer darparu
Mae swyddogion wedi ystyried canfyddiadau arolwg Ton 1 ac Adroddiad Interim y Gwerthusiad Cenedlaethol ac maent yn gweithio gydag awdurdodau lleol a’u partneriaid i nodi enghreifftiau o arfer da. Lle bo’n briodol, caiff yr enghreifftiau hyn eu hadlewyrchu yng nghanllawiau diwygiedig y rhaglen. Bydd swyddogion hefyd yn monitro perfformiad awdurdodau lleol yn drylwyr i sicrhau bod gwasanaethau Dechrau’n Deg yn cael eu darparu i’r plant a’r teuluoedd hynny sydd fwyaf angen cymorth.
Yn ogystal â gweithgarwch gwerthuso hydredol, rwyf hefyd wedi cymeradwyo comisiynu adolygiadau o dystiolaeth i gefnogi’r gwaith o ddarparu cymorth effeithiol i deuluoedd a gweithgarwch datblygiad iaith cynnar, sy’n elfennau craidd o’r rhaglen Dechrau’n Deg. Defnyddir canfyddiadau’r holl weithgareddau ymchwil a gwerthuso, ynghyd â data monitro mewnol, i lywio canllawiau’r rhaglen ac i gefnogi datblygiad Dechrau’n Deg wrth i ni ehangu’r rhaglen.
8. Integreiddio â pholisïau ehangach Llywodraeth Cymru
Mae cysylltiadau ar waith ar lefel polisi a rhaglen i sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus. Mae aelodaeth bwrdd y rhaglen Dechrau’n Deg yn sicrhau bod rhaglenni blaenllaw - gan gynnwys Teuluoedd yn Gyntaf, Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd a Chymunedau yn Gyntaf – yn cefnogi’r gwaith o ehangu Dechrau’n Deg ac yn gweithio tuag at ddarparu gwasanaeth cyfannol i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru.
Gwenda Thomas AC
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
|
SF/GT/0057/12 |
|||||||
|
Local Authority |
2011-12 Dyraniadau |
2012-13 Dyraniadau |
2013-14 (Indicative) Dyraniadau |
2014-15 (Indicative) Dyraniadau |
|||
|
Ynys Môn |
£781,628 |
£823,477 |
£1,182,183 |
£1,391,429 |
|||
|
Blaenau Gwent |
£1,197,463 |
£1,257,355 |
£1,770,717 |
£2,070,178 |
|||
|
Pen-y-bont ar Ogwr |
£1,617,297 |
£1,714,236 |
£2,545,141 |
£3,029,835 |
|||
|
Caerffili |
£2,716,042 |
£2,857,849 |
£4,073,334 |
£4,782,367 |
|||
|
Caerdydd |
£4,844,853 |
£5,157,418 |
£7,836,542 |
£9,399,365 |
|||
|
Sir Gaerfyrddin |
£1,949,651 |
£2,057,978 |
£2,986,498 |
£3,528,135 |
|||
|
Ceredigion |
£613,900 |
£643,469 |
£896,915 |
£1,044,759 |
|||
|
Conwy |
£1,186,173 |
£1,247,780 |
£1,775,843 |
£2,083,880 |
|||
|
Sir Ddinbych |
£1,081,613 |
£1,142,877 |
£1,668,000 |
£1,974,321 |
|||
|
Sir y Fflint |
£1,526,181 |
£1,608,301 |
£2,312,189 |
£2,722,790 |
|||
|
Gwynedd |
£1,167,996 |
£1,228,780 |
£1,749,786 |
£2,053,707 |
|||
|
Merthyr Tudful |
£1,082,250 |
£1,140,358 |
£1,638,431 |
£1,928,973 |
|||
|
Sir Fynwy |
£647,482 |
£678,423 |
£943,630 |
£1,098,335 |
|||
|
Castell-nedd Port Talbot |
£1,956,858 |
£2,066,832 |
£3,009,465 |
£3,559,334 |
|||
|
Casnewydd |
£2,402,786 |
£2,534,233 |
£3,660,924 |
£4,318,160 |
|||
|
Sir Benfro |
£1,368,347 |
£1,437,844 |
£2,033,532 |
£2,381,016 |
|||
|
Powys |
£992,387 |
£1,041,851 |
£1,465,830 |
£1,713,151 |
|||
|
Rhondda Cynon Taf |
£3,548,173 |
£3,736,357 |
£5,349,359 |
£6,290,277 |
|||
|
Abertawe |
£3,066,017 |
£3,243,155 |
£4,761,483 |
£5,647,173 |
|||
|
Tor-faen |
£1,421,567 |
£1,492,848 |
£2,103,824 |
£2,460,228 |
|||
|
Bro Morgannwg |
£1,354,446 |
£1,422,434 |
£2,005,184 |
£2,345,122 |
|||
|
Wrecsam |
£1,520,891 |
£1,610,146 |
£2,375,190 |
£2,821,466 |
|||
|
Cyfanswm |
£38,044,000 |
£40,144,001 |
£58,144,001 |
£68,644,001 |
|||
|
SF/GT/0057/12 |
|||||||
[1] Ystyr nifer cap yw nifer y plant y disgwylir i awdurdod lleol eu cefnogi trwy’r arian sydd ar gael iddo. Defnyddir y niferoedd hyn i sicrhau dwysedd y rhaglen fel nad yw gwasanaethau’n cael eu gwanhau.